Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (116) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 8 a 10 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 4 a 14 gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Trosglwyddwyd cwestiwn 15 ar gyfer ateb ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd.
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y cwestiwn.
Cynnig I Atal Rheolau Sefydlog
Dechreuodd yr eitem am 14.25
NDM5177 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5176 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5171 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi pwysigrwydd cydnabod a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig;
2.Yn credu y dylid ystyried cyflwyno System Anrhydeddau Cymreig i gydnabod a gwobrwyo’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i fywyd Cymru; a
3.Yn croesawu’r gefnogaeth gyhoeddus eang sy’n bodoli dros ddynodi Dydd Gwyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau priodol i gyflawni’r nod hwnnw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
5 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys ei chael ar iechyd a lles cleifion;
2.Yn nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09;
3.Yn mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;
4.Yn gresynu bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf;
5.Yn gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar hyn o bryd.
6.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru;
b) sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac
c) rhoi sicrwydd y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar hyn o bryd yn cyflawni amseroedd ymateb gwell.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘a bod rhai cleifion nad ydynt yn cael eu cyfrif fel galwadau brys categori A yn aros am oriau mewn poen nes bod ambiwlans ar gael’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 6c), dileu ‘cyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
‘:
i) cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac
ii) archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
13 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru )
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
‘buddsoddi i uwchsgilio a hyfforddi staff presennol y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys ei chael ar iechyd a lles cleifion;
2.Yn nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09;
3.Yn mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;
4.Yn gresynu bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf;
5.Yn gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar hyn o bryd.
6.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru;
b) sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac
c) rhoi sicrwydd y
bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar hyn o bryd yn:
i) cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac
ii) archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1.Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir; a
2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
43 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:
Yn nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei le
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
31 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.31
7. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM5173 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru):
Sgan mewn pryd – Sgan MRI o’r fron ar gyfer merched ifanc risg uchel
Daeth y cyfarfod i ben am 18:01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013